Cyfarfod:

Grŵp trawsbleidiol ar hosbisau/gofal lliniarol

 

Lleoliad:

Hosbis Tŷ’r Eos, Wrecsam

Dyddiad ac amser:

17 Hydref 2014

1-2:30pm

Trefnydd:

Stephen McCauley

s.mccauley@hospiceuk.org

 

Present

Ian Bellingham, Hosbis Sant Kentigern

Janette Bourne, Gofal Galar Cruse Cymru

Stephen Clark, Hospice UK

Carol Davies, BASW Cymru

Dr Jenny Duguid, Hosbis Tŷ’r Eos

Dr Harry Edwards, Hosbis yn y Cartref

Fiona Fletcher, My Name is Not Cancer

Alison Foster, Aelod cyswllt Macmillan

Kath Fox, Fforwm Cleifion Rhwydwaith Canser Gogledd Cymru

Andy Goldsmith, Hosbis Tŷ Gobaith

Eluned Griffiths, Hosbis Tŷ’r Eos

Gladys Harrison, Hosbis Dewi Sant

Mark Isherwood AM (Cadeirydd)

Angela Jones, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Trefor Jones, Hosbis Sant Kentigern

Kath Jones, Hosbis Tŷ Gobaith

Yvonne Lush, Macmillan

Hazel Meredith, Fforwm Cleifion Rhwydwaith Canser Gogledd Cymru

Stephen McCauley, Hospice UK (Cofnodion)

Lynn Parry, Hosbis yn y Cartref

Trystan Pritchard, Hosbis Dewi Sant

Aled Roberts AC

Antoinette Sandbach AC

John Savage, Hosbis Tŷ’r Eos

Caroline Siddall, Hosbis Tŷ’r Eos

Dr Caroline Usborne, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Natasha Wynne, Gofal Canser Marie Curie

 

Ymddiheuriadau

Mohammed Asghar AC

Sandra Dade, Sefydliad Paul Sartori

Janet Finch-Saunders AC

Y Farwnes Finlay

Mike Hedges AC

Simon Jones, Gofal Canser Marie Curie

Dr Matthew Makin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cathrin Manning, Y Groes Goch Brydeinig

David Melding AC

Robyn Miles, GSK

Robin Moulster, BASW

Margaret Pritchard, Gofal Hosbis George Thomas

Andrew Richards, Hosbis y Cymoedd

Jayne Saunders, Tŷ Hafan

Emma Saysell, Sefydliad Dewi Sant

Simon Thomas AC

Sophie Thomas, Sefydliad Paul Sartori

Allison Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

 

Eitem

Crynodeb

Cam i’w gymryd

H&PC/1

Croeso, cofnodion y cyfarfod diwethaf a materion yn codi

Croesawodd Mark Isherwood bawb i’r cyfarfod – y cyntaf i’w gynnal y tu allan i Gaerdydd.   

 

Cymeradwywyd y cofnodion diwethaf a nodwyd bod llythyrau wedi’u cyfnewid â’r Gweinidog yn ymwneud â’r cynllun cyflenwi gofal diwedd oes, a’r cyllid ar ei gyfer,  wedi i’r mater gael ei godi yn y cyfarfod diwethaf. 

 

H&PC/2

 

Dogfen yn  ymdrin â dyfodol gofal lliniarol yng Ngogledd Cymru ac ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cyflwynodd Ian Bellingham dogfen drafod Grŵp Cyswllt Hosbisau Gogledd Cymru, sef ‘Dyfodol Gofal Lliniarol yng Ngogledd Cymru’ a chafwyd sylwadau arni gan Caroline Usborne o Betsi Cadwaladr ar ran y bwrdd iechyd hwnnw.

 

Mae’r hosbisau am weld gwahanol ddarparwyr yng ngogledd Cymru yn cydweithredu mewn partneriaethau, ac yn gobeithio cael tair canolfan ragoriaeth yng Nghymru i ddarparu gofal lliniarol i’r rhai sydd wedi dod i ddiwedd eu hoes.  

 

Soniodd Caroline Usborne am y ffaith bod y byrddau’n canolbwyntio ar wasanaethau yn y gymuned a cheisio atal pobl rhag gorfod mynd i’r ysbyty. Cadarnhaodd y bydd dogfen derfynol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar strwythurau cyflenwi’n cael ei chyhoeddi ganol mis Tachwedd. 

 

Cam i’w gymryd: Awgrymodd Mark Isherwood y dylid ysgrifennu at y Gweinidog i hyrwyddo’r ddogfen hon ac i gael barn y llywodraeth amdani. Cytunodd y grŵp â hyn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ysgrifenyddiaeth

H&PC/3

 

 

Cyllid statudol i hosbisau

Cyflwynodd John Savage adroddiad ar sefyllfa ariannu hosbisau gan nodi bod cyllid gan y byrddau iechyd wedi’i rewi ers 2010. Mae’r adroddiad yn dangos bod hosbisau i oedolion wedi cael £1 miliwn yn llai o gyllid dros y pum mlynedd diwethaf ac mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfarwyddyd i’r holl fyrddau iechyd i gynyddu’r cyllid i lefel sydd o leiaf yn cyd-fynd â chwyddiant.

 

Yna, cafwyd trafodaeth grŵp am gyllid statudol. Dywedodd Caroline Usborne nad oedd y byrddau iechyd yn sicr beth roedd Llywodraeth Cymru yn ei olygu wrth ddweud ei bod am ‘glustnodi’ cyllid ar gyfer gofal lliniarol arbenigol o fis Ebrill 2015 ymlaen.

 

Holodd Aled Roberts ynghylch yr estyniad a roddwyd i gynllun ariannol tair blynedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dywedodd Caroline Usborne nad oedd y manylion wedi’u cadarnhau eto.  

 

Cam i’w gymryd: Cytunwyd y byddai’r grŵp yn ysgrifennu at y Gweinidog i holi am fanylion y penderfyniad i glustnodi arian canolog datganoledig i’r byrddau iechyd lleol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ysgrifenyddiaeth

H&PC/4

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

H&PC/5

Gwella data am brofiadau cleifion

Soniodd Natasha Wynne am adroddiad Marie Curie ar wella profiadau cleifion yng Nghymru. Rhoddodd y cyd-destun – mae 31,000 yn marw yng Nghymru bob blwyddyn ac mae angen gofal lliniarol ar 75% (23,000) ohonynt. Nid oes modd ateb y galw ar hyn o bryd ac mae adborth pwysig ar goll, yn enwedig gan gleifion nad ydynt yn dioddef o ganser.

 

Cyfeiriodd Natasha Wynne at y problemau gyda’r prosesau presennol – ychydig o ymateb a geir ac mae agweddau allweddol a nodweddion cleifion ar goll.

 

Ymhlith mesurau eraill, mae’r adroddiad yn argymell y dylid cyflwyno arolwg blynyddol o alar yng Nghymru, tebyg i VOICES.

 

Yna cafwyd trafodaeth fer ar yr adroddiad a’r argymhellion. Dadleuodd Trystan Pritchard fod angen data dibynadwy ac nad yw’r sefyllfa bresennol yn caniatáu inni laesu dwylo.

 

Mae nifer yr ymatebion yn amrywio bob mis ar hyn o bryd, rhwng 1 ac 20 ymateb, a dim ond ciplun yn unig y gall arolwg iWantGreatCare ei gynnig. Dywedodd Natasha Wynne fod y data yng Nghymru yn anghyson a bod gwybodaeth am dueddiadau a gwahaniaethau rhanbarthol o ran gofal ar goll.

 

Unrhyw fater arall

  • Cynhadledd fideo - gofynnodd Mark Isherwood a fyddai’r bwrdd lleol yn fodlon cymryd rhan mewn cyfarfodydd yn y dyfodol drwy ymddangos drwy gyfrwng cyswllt fideo. Dywedodd Caroline Usborne y byddai’n fodlon gwneud hynny.
  • Gofal trosiannol – mater sy’n dod yn gynyddol bwysig. Dywedodd Kath Jones y caiff adroddiad ‘Pontio’r Bwlch’ ei gyhoeddi’r wythnos nesaf.    
  • Awdurdodau lleol - gofynnodd Aled Roberts a oedd awdurdodau lleol yn ymgysylltu â hosbisau a’r byrddau iechyd. Cyfeiriodd Caroline Usborne at wahanol weithgorau sy’n cael adborth. Rhoddodd Ian Bellingham enghraifft o gynghorydd lleol sy’n bresennol yng nghyfarfodydd bwrdd Hosbis Sant Kentigern.